DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL

 

Diweddariad ar Bolisi Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru

DYDDIAD

12 Mai 2022

GAN

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

 

 

Mae’n bleser gennyf gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi dod i gytundeb mewn perthynas â sefydlu Polisi Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru.

 

Mae’r cytundeb rydym wedi’i wneud yn deg i Gymru, ac yn parchu cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru mewn meysydd polisi datganoledig – ac mae’n dilyn cryn drafod rhwng ein Llywodraethau.

 

Cytunodd Llywodraeth y DU i nifer o ofynion gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys y canlynol:

·         Bydd Gweinidogion y DU yn darparu o leiaf £26 miliwn o gyllid cychwynnol, nad oes angen ei ad-dalu, ar gyfer unrhyw Borthladd Rhydd sy’n cael ei sefydlu yng Nghymru, sy’n cyfateb i’r hyn sy’n cael ei gynnig i Borthladdoedd Rhydd yn Lloegr;

 

·         Bydd y ddwy Lywodraeth yn gweithio mewn partneriaeth gydradd i sefydlu unrhyw Borthladdoedd Rhydd yng Nghymru;

 

·         Dim ond os gellir dangos yn glir y bydd yn gweithredu mewn ffordd sy’n cyd-fynd â pholisïau Llywodraeth Cymru ar waith teg a chynaliadwyedd amgylcheddol, gan gynnwys ymrwymiad Cymru i fod yn wlad carbon sero-net, y bydd Porthladd Rhydd yn cael ei sefydlu.

 

Bydd Aelodau o’r Senedd yn gwybod o’m datganiad blaenorol dyddiedig 15 Gorffennaf 2021 fod y rhain yn adlewyrchu’r amodau hynny a gafodd eu hamlinellu yn ein llythyr at Lywodraeth y DU ym mis Chwefror 2021, sef:

·         “Bod penderfyniadau’n cael eu gwneud rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar y cyd – gan gynnwys pennu’r meini prawf ar gyfer cynigion, asesu cynigion ac rhoi statws Porthladd Rhydd.

 

·         Amodoldeb – i sicrhau bod y broses o gyflwyno Porthladdoedd Rhydd yn adlewyrchu gwerthoedd a blaenoriaethau Gweinidogion Cymru, yn benodol mewn perthynas â safonau amgylcheddol, gwaith teg a phartneriaeth gymdeithasol.

 

·         Setliad cyllid teg – nad yw naill ai yn rhoi Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru o dan anfantais nac yn ei gwneud yn ofynnol inni ailgyfeirio miliynau o bunnoedd o flaenoriaethau eraill. Ar gyfartaledd, disgwylir i Borthladdoedd Rhydd yn Lloegr dderbyn cymorth ariannol uniongyrchol gwerth £25 miliwn yr un.”

 

Yn ogystal mae Gweinidogion Cymru a Gweinidogion y DU wedi cytuno ar y canlynol:

 

 

 

Yn yr un modd â Phorthladdoedd Rhydd yn Lloegr, bydd proses gystadleuol deg ac agored yn cael ei defnyddio i benderfynu lle y dylid gweithredu’r polisi yng Nghymru. Bydd y ddwy Lywodraeth yn gweithio gyda’i gilydd i gydlunio’r broses ar gyfer dewis safleoedd i fod yn Borthladd Rhydd, a bydd barn y ddwy yn gydraddol yn yr holl benderfyniadau yn ystod y broses weithredu. Mae hyn yn cynnwys y penderfyniad terfynol ynghylch dewis y safle.

 

Mae’r ddwy Lywodraeth wedi dechrau’r broses o ddylunio’r prosbectws cynnig ar gyfer y gystadleuaeth, a bydd rhagor o fanylion ynghylch amserlen y camau nesaf yn cael eu cyhoeddi maes o law.

 

Rwyf wir yn gobeithio y bydd bodlonrwydd y DU i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar Borthladdoedd Rhydd mewn partneriaeth gydradd yn darparu model cadarnhaol er gyfer cydweithredu rhwng ein Llywodraethau ar fentrau eraill yn y dyfodol.